RHAN 6LL+CGORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaithLL+C

Rhagolygol

97Budd gorchymyn cydsyniad seilwaithLL+C

(1)Os gwneir gorchymyn cydsyniad seilwaith mewn cysylltiad ag unrhyw dir, mae’r gorchymyn yn cael effaith er budd y tir a’r holl bersonau sydd am y tro â buddiant yn y tir.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)