RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith
97Budd gorchymyn cydsyniad seilwaith
(1)
Os gwneir gorchymyn cydsyniad seilwaith mewn cysylltiad ag unrhyw dir, mae’r gorchymyn yn cael effaith er budd y tir a’r holl bersonau sydd am y tro â buddiant yn y tir.
(2)
Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir yn y gorchymyn.