RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith

96Heriau cyfreithiol

(1)

Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu gorchymyn cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)

yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)

y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod—

(i)

y cyhoeddir y gorchymyn, neu

(ii)

os yw’n hwyrach, y diwrnod y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn.

(2)

Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu gwrthod cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)

yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)

y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros y gwrthodiad.

(3)

Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu penderfyniad o dan adran 33 i beidio â derbyn cais yn gais dilys am gydsyniad seilwaith oni fo—

(a)

yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)

y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod yr hysbysir y ceisydd fel sy’n ofynnol gan is-adran (4) o’r adran honno.

(4)

Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu penderfyniad o dan adran 87 mewn perthynas â gwall mewn dogfen penderfyniad oni fo—

(a)

yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)

y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad i’r ceisydd o dan adran 87(5) neu, os yw’n ofynnol i’r cywiriad gael ei wneud drwy orchymyn a gynhwysir mewn offeryn statudol, drannoeth y diwrnod y cyhoeddir y gorchymyn.

(5)

Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu penderfyniad o dan adran 90(1) i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)

yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)

y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r newid o dan adran 91(6) neu, os yw’n ofynnol i’r newid neu’r dirymiad gael ei wneud drwy orchymyn a gynhwysir mewn offeryn statudol, drannoeth y diwrnod y cyhoeddir y gorchymyn sy’n gwneud y newid neu’r dirymiad.

(6)

Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu unrhyw beth arall a wneir, neu nas gwneir, gan awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith neu gais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)

yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)

y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod perthnasol.

(7)

Ystyr “y diwrnod perthnasol” yw—

(a)

mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith, y diwrnod—

(i)

y tynnir y cais yn ôlׅ,

(ii)

y cyhoeddir y gorchymyn cydsyniad seilwaith neu (os yw’n hwyrach) y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn, neu

(iii)

y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros wrthod cydsyniad seilwaith;

(b)

mewn perthynas â chais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, diwrnod a bennir mewn rheoliadau.

(8)

Nid yw is-adrannau (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)

methiant i benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith neu gais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu

(b)

unrhyw beth sy’n gohirio (neu’n debygol o ohirio) y penderfyniad ar y cais hwnnw.