RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith

95Pryd y mae datblygiad yn dechrau

(1)

At ddibenion‍ adrannau 90 a 94, cymerir bod datblygiad yn dechrau ar y dyddiad cynharaf y mae unrhyw weithrediad perthnasol sy’n ffurfio’r datblygiad, neu a gynhelir at ddibenion y datblygiad, yn dechrau cael ei gynnal.

(2)

Ystyr “gweithrediad perthnasol” yw unrhyw weithrediad ac eithrio gweithrediad o fath a bennir mewn rheoliadau.