RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith

94Hyd gorchymyn cydsyniad seilwaith

(1)

Rhaid i ddatblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer gael ei ddechrau cyn diwedd—

(a)

y cyfnod penodedig, neu

(b)

unrhyw gyfnod arall (boed hwnnw’n gyfnod hirach neu fyrrach na’r cyfnod penodedig) a bennir yn y gorchymyn sy’n rhoi’r cydsyniad.

(2)

Os nad yw’r datblygiad wedi ei ddechrau cyn diwedd y cyfnod sy’n gymwys o dan is-adran (1), mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)

Pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, rhaid i gamau o fath a bennir mewn rheoliadau gael eu cymryd mewn perthynas â’r caffaeliad gorfodol cyn diwedd—

(a)

y cyfnod penodedig, neu

(b)

unrhyw gyfnod arall (boed hwnnw’n gyfnod hirach neu fyrrach na’r cyfnod penodedig) a bennir yn y gorchymyn.

(4)

Os na chymerir camau o’r disgrifiad a bennir mewn rheoliadau cyn diwedd y cyfnod sy’n gymwys o dan is-adran (3), mae’r awdurdodiad i gaffael y tir yn orfodol o dan y gorchymyn yn peidio â chael effaith.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod penodedig” yw cyfnod a bennir mewn rheoliadau.