RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Gwneud newidiadau i orchmynion cydsyniad seilwaith a’u dirymu
92Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith: trefniadau ffurfiol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a)
gorchymyn a wneir o dan adran 87;
(b)
hysbysiad a ddyroddir o dan adran 87;
(c)
gorchymyn a wneir o dan adran 90.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gorchymyn neu’r hysbysiad (yn ôl y digwydd) yn y modd y maent yn ystyried ei fod yn briodol.
(3)
Ond os yw’n ofynnol i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol (yn rhinwedd adran 87(4) neu adran 91(7)), cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn sy’n cynnwys y gorchymyn gael ei wneud, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r offeryn gerbron Senedd Cymru.