RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Gwneud newidiadau i orchmynion cydsyniad seilwaith a’u dirymu

90Pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(2)

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy newid gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth y caniateir ei gwneud o dan adran 63, yn ddarostyngedig i’r adran hon.

(3)

Caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-adran (1) ar gais a wneir gan y canlyno‍l—

(a)

y ceisydd neu olynydd yn nheitl y ceisydd;

(b)

person a chanddo fuddiant yn y tir;

(c)

unrhyw berson arall y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er ei fudd.

(4)

Caniateir arfer y pŵer i ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a roddir gan is-adran (1) yn sgil cais a wneir gan awdurdod cynllunio os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)

bod y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad ar dir y mae’r cyfan ohono neu ran ohono yn ardal yr awdurdod cynllunio,

(b)

bod y datblygiad wedi ei ddechrau ond wedi ei adael, ac

(c)

bod cyflwr y tir yn cael effaith andwyol ar amwynder tir arall yn ardal yr awdurdod cynllunio neu mewn ardal gydffiniol.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru wrthod arfer y pŵer ar gais a wneir o dan is-adran (3) neu (4) os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, yn benodol, y dylai’r datblygiad a fyddai’n cael ei awdurdodi o ganlyniad i’r newid fod, yn briodol, yn destun cais o dan adran 32 am gydsyniad seilwaith.

(6)

Caniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (1) gael ei arfer gan Weinidogion Cymru heb i gais gael ei wneud o dan is-adran (3) neu (4).

(7)

Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i symud ymaith neu addasu gwaith adeiladu;

(b)

ei gwneud yn ofynnol i roi’r gorau i ddefnydd o dir;

(c)

gosod gofynion penodedig mewn cysylltiad â pharhau â defnydd o dir;

(d)

gosod gofynion newydd mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer;

(e)

dileu neu amrywio gofynion presennol;

(f)

gwneud darpariaeth newydd yn ymwneud â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer, neu faterion sy’n atodol i hynny;

(g)

dileu neu amrywio darpariaeth bresennol o’r math hwnnw.

(8)

Yn ddarostyngedig i is-adran (7)(a), nid yw arfer y pŵer yn effeithio ar unrhyw waith adeiladu na gweithrediadau eraill a gynhaliwyd yn unol â’r gorchymyn cydsyniad seilwaith cyn i’r pŵer gael ei arfer.

(9)

Ni chaniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (1) gael ei arfer mewn perthynas â darpariaeth a gynhwysir mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhinwedd paragraff 24 neu 25 o Atodlen 1 (trwydded forol dybiedig o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)).