(1)Mae adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol os disgwylir (ar ôl ei hadeiladu) y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3) i (7) mewn perthynas â hi.
(2)Mae addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os disgwylir, ar ôl yr addasiad, y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3)(a) a (4) i (7) mewn perthynas â hi, a
(b)y disgwylir i’r addasiad gael yr effaith a bennir yn is-adran (8).
(3)Rhaid i’r tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno—
(a)bod yng Nghymru, a
(b)bod ag arwynebedd o 60 o hectarau o leiaf.
(4)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd allu trin—
(a)llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un traddodai, a
(b)o leiaf bedwar trên nwyddau y dydd.
(5)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
(6)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys warysau y gellir danfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru naill ai yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth.
(7)Ni chaiff y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o sefydliad milwrol.
(8)Yr effaith y cyfeirir ati yn is-adran (2)(b) yw cynyddu 60 o hectarau o leiaf arwynebedd y tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno.
(9)Yn yr adran hon—
ystyr “sefydliad milwrol” (“military establishment”) yw sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;
ystyr “trên nwyddau” (“goods train”) yw trên (gan ddiystyru unrhyw locomotif) sy’n cynnwys cerbydau rheilffyrdd a gynlluniwyd i gludo nwyddau.
(10)Mae i “cerbydau rheilffyrdd”, “rhwydwaith” a “trên” yr un ystyron ag a roddir i “rolling stock”, “network” a “train” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 mewn grym ar 4.6.2024, gweler a. 147(1)(a)