RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL

Trafnidiaeth

9Cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd

(1)

Mae adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol os disgwylir (ar ôl ei hadeiladu) y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3) i (7) mewn perthynas â hi.

(2)

Mae addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)

os disgwylir, ar ôl yr addasiad, y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3)(a) a (4) i (7) mewn perthynas â hi, a

(b)

y disgwylir i’r addasiad gael yr effaith a bennir yn is-adran (8).

(3)

Rhaid i’r tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno—

(a)

bod yng Nghymru, a

(b)

bod ag arwynebedd o 60 o hectarau o leiaf.

(4)

Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd allu trin—

(a)

llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un traddodai, a

(b)

o leiaf bedwar trên nwyddau y dydd.

(5)

Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

(6)

Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys warysau y gellir danfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru naill ai yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth.

(7)

Ni chaiff y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o sefydliad milwrol.

(8)

Yr effaith y cyfeirir ati yn is-adran (2)(b) yw cynyddu 60 o hectarau o leiaf arwynebedd y tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno.

(9)

Yn yr adran hon—

ystyr “sefydliad milwrol” (“military establishment”) yw sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

ystyr “trên nwyddau” (“goods train”) yw trên (gan ddiystyru unrhyw locomotif) sy’n cynnwys cerbydau rheilffyrdd a gynlluniwyd i gludo nwyddau.

(10)

Mae i “cerbydau rheilffyrdd”, “rhwydwaith” a “trên” yr un ystyron ag a roddir i “rolling stock”, “network” a “train” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43).