RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Gwneud newidiadau i orchmynion cydsyniad seilwaith a’u dirymu

89Diffiniadau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 90 ac 91.

(2)

Ystyr “y ceisydd”, mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith, yw’r person a wnaeth gais am y gorchymyn.

(3)

Ystyr “olynydd yn nheitl y ceisydd” yw person—

(a)

y mae ei deitl i’r tir yn deillio o’r ceisydd (boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), a

(b)

a chanddo fuddiant yn y tir.

(4)

Ystyr “y tir”, mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith, yw’r tir y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef neu unrhyw ran o’r tir hwnnw.