RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith etc.
88Cywiro gwallau: rheoliadau
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn i gywiro gwall mewn dogfen penderfyniad, ac mewn cysylltiad â hynny, a chaiff (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
unrhyw ymgynghoriad y mae rhaid iddo ddigwydd;
(b)
yr amgylchiadau pan fo rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn egluro’r rhesymau dros gywiro’r gwall.
(2)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
effaith gwneud cywiriad o dan adran 87(2) a pheidio â gwneud cywiriad;
(b)
pryd y mae cywiriad a wneir o dan adran 87(2) yn cymryd effaith.