RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith etc.

87Pŵer i gywiro gwallau mewn dogfennau penderfyniad

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan ddyroddir dogfen penderfyniad sy’n cynnwys gwall.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru gywiro’r gwall yn y ddogfen penderfyniad.

(3)

Caniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer—

(a)

os ceir cais ysgrifenedig i gywiro’r gwall oddi wrth unrhyw berson, neu

(b)

heb i gais o’r fath gael ei wneud.

(4)

Os yw’r ddogfen penderfyniad yn orchymyn cydsyniad seilwaith—

(a)

rhaid i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer drwy orchymyn, a

(b)

os cynhwysir y gorchymyn sydd i’w gywiro mewn offeryn statudol, mae’r pŵer a roddir gan is-adran (2) i’w arfer drwy offeryn statudol.

(5)

Os yw’r ddogfen penderfyniad yn hysbysiad o wrthodiad a roddir i’r ceisydd, rhaid i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer drwy roi hysbysiad i’r ceisydd.