RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion cydsyniad seilwaith

85Gorchmynion cydsyniad seilwaith: eu cyhoeddi a’r weithdrefn

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gorchymyn yn y modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, ac eithrio mewn achos sydd o fewn is-adran (3).

(3)

Os yw’r gorchymyn yn cynnwys darpariaeth—

(a)

a wneir o dan adran 63(3) sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir ym mharagraffau 28 a 29 o Atodlen 1, neu

(b)

a wneir wrth arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a roddir gan adran 63(6)(a) neu 63(6)(b),

rhaid i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol.

(4)

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn sy’n cynnwys y gorchymyn gael ei wneud, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru gopi o—

(a)

yr offeryn,

(b)

y fersiwn ddiweddaraf o unrhyw blan a gyflenwyd gan y ceisydd mewn cysylltiad â’r cais am y gorchymyn a gynhwysir yn yr offeryn, ac

(c)

datganiad o’r rhesymau a luniwyd o dan adran 62.