RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Darpariaeth mewn gorchmynion: cyfyngiadau a phwerau penodol
83Cydsyniad tybiedig o dan drwydded forol
(1)
Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n tybio y dyroddwyd trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) ar gyfer unrhyw weithgaredd lle Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer.
(2)
Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth—
(a)
sy’n tybio bod trwydded forol wedi ei rhoi o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y gorchymyn, a
(b)
sy’n tybio bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi’r amodau hynny ynghlwm wrth y drwydded o dan y Rhan honno.
(3)
Nid yw person sy’n methu â chydymffurfio ag amod o’r math a grybwyllir yn is-adran (2) yn cyflawni trosedd o dan adran 104 o’r Ddeddf hon.
(4)
Nid yw adrannau 68 (hysbysu ynghylch ceisiadau) na 69(3) a (5) (sylwadau) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn gymwys mewn perthynas â’r drwydded forol dybiedig.
(5)
Nid yw unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu a wneir odani neu yn ei rhinwedd yn rhwystro trwydded forol dybiedig rhag cael ei hamrywio, ei hatal dros dro, ei dirymu neu ei throsglwyddo yn unol ag adran 72 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
(6)
Yn yr adran hon, mae i “yr awdurdod trwyddedu priodol” yr ystyr a roddir i “the appropriate licensing authority” gan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.