RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL

Trafnidiaeth

7Priffyrdd

(1)

Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)

adeiladu priffordd mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2);

(b)

addasu neu wella priffordd mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (3),

oni bai eu bod wedi eu heithrio gan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (4) i (6).

(2)

Nid yw adeiladu priffordd ond o fewn yr is-adran hon—

(a)

os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yng Nghymru,

(b)

os Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd, ac

(c)

os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn briffordd ddi-dor o fwy nag 1 cilometr o hyd.

(3)

Nid yw addasu neu wella priffordd ond o fewn yr is-adran hon—

(a)

os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yng Nghymru,

(b)

os Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd, ac

(c)

os yw’r addasu neu’r gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

(4)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeiladu, addasu neu wella priffordd—

(a)

os oes gorchymyn a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei wneud mewn perthynas â’r datblygiad cyn i’r adran honno ddod i rym,

(b)

os oes angen gorchymyn pellach mewn perthynas â’r datblygiad, ac

(c)

os nad oes mwy na 7 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gorchymyn cynharach gael ei wneud.

(5)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i addasu priffordd—

(a)

os oes caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer datblygiad,

(b)

os yw’r addasiad yn angenrheidiol o ganlyniad i’r datblygiad, ac

(c)

os yw’r datblygwr wedi gofyn am i’r addasiad gael ei wneud i’r briffordd.

(6)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i addasu priffordd—

(a)

os oes gorchymyn a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei wneud mewn perthynas â gwaith priffordd leol,

(b)

os yw’r addasiad yn angenrheidiol o ganlyniad i’r gwaith priffordd leol, ac

(c)

os yw’r awdurdod priffyrdd lleol sy’n gyfrifol am y gwaith priffordd leol wedi gofyn am i’r addasiad gael ei wneud i’r briffordd.

(7)

Yn yr adran hon—

mae i “awdurdod priffyrdd lleol” yr ystyr a roddir i “local highway authority” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);

ystyr “gwaith priffordd leol” (“local highway works”) yw gwaith a gynhelir gan awdurdod priffyrdd lleol, neu ar ei ran, mewn perthynas â phriffordd y mae’n awdurdod priffyrdd ar ei chyfer (ac yn yr adran hon cyfeirir at yr awdurdod priffyrdd lleol fel y sawl sy’n “gyfrifol” am y gwaith hwnnw).