RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol
69Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i dir y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno a ddelir gan yr Ymddiriedolaeth yn anhrosglwyddadwy.
(2)
Mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, i’r graddau y bo’r gorchymyn yn awdurdodi caffael yn orfodol dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, os bodlonir yr amod yn is-adran (3).
(3)
Yr amod yw—
(a)
bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwneud sylw ynghylch y cais am y gorchymyn cydsyniad seilwaith cyn i’r archwiliad o’r cais gael ei gwblhau,
(b)
bod y sylw yn cynnwys gwrthwynebiad i gaffael y tir yn orfodol, ac
(c)
nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.
(4)
Mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo ac y mae adran 70 neu 71 hefyd yn gymwys iddo, caiff gweithdrefn arbennig y Senedd—
(a)
bod yn ofynnol gan is-adran (2) pa un a yw hefyd yn ofynnol gan adran 70(3) neu 71(2) ai peidio, a
(b)
bod yn ofynnol gan adran 70(3) neu 71(2) pa un a yw hefyd yn ofynnol gan is-adran (2) ai peidio.
(5)
Yn yr adran hon, ystyr “a ddelir yn anhrosglwyddadwy”, mewn perthynas â thir y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno, yw bod y tir yn anhrosglwyddadwy o dan adran 21 o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi) neu adran 8 o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1939 (p. lxxxvi).