RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol

67Digolledu am gaffael tir yn orfodol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.

(2)

Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o addasu cymhwysiad darpariaeth ddigolledu, ac eithrio i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn cymhwyso’r ddarpariaeth i’r caffaeliad tir gorfodol a awdurdodir gan y gorchymyn.

(3)

Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o eithrio cymhwysiad darpariaeth ddigolledu.

(4)

“Darpariaeth ddigolledu” yw deddfiad sy’n ymwneud â digolledu am gaffael tir yn orfodol.