RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol

66Cais am ddarpariaethau caffael yn orfodol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.

(2)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) (y weithdrefn prynu gorfodol) yn gymwys i gaffael tir yn orfodol o dan y gorchymyn—

(a)

fel y mae’n gymwys i bryniant gorfodol y mae Rhan 2 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys iddo, a

(b)

fel pe bai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(3)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965, fel y’i cymhwysir gan is-adran (2), yn cael effaith gan hepgor y darpariaethau a ganlyn—

(a)

adran 4 (terfyn amser i arfer pwerau prynu gorfodol);

(b)

adran 10 (digolledu am effaith niweidiol).

(4)

Mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir gan y gorchymyn cydsyniad seilwaith.