RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol

65Tir y gall awdurdodiad i gaffael yn orfodol ymwneud ag ef

(1)

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw—

(a)

y tir yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, a

(b)

Gweinidogion Cymru yn fodlon bod un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi ei fodloni.

(2)

Yr amod yw bod y cais am gydsyniad seilwaith wedi cynnwys archiad i awdurdodi caffael y tir yn orfodol.

(3)

Yr amod yw bod yr holl bersonau a chanddynt fuddiant yn y tir yn cydsynio i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys.

(4)

Yr amod yw bod y weithdrefn a bennir mewn rheoliadau at ddiben yr adran hon wedi ei dilyn mewn perthynas â’r tir.