RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol

64Diben caniatáu awdurdodi caffael yn orfodol

(1)

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yr amodau yn is-adrannau (2) a (3) wedi eu bodloni.

(2)

Yr amod yw—

(a)

bod y tir yn ofynnol ar gyfer y datblygiad y mae’r cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef,

(b)

bod y tir yn ofynnol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwnnw neu fod y tir yn ddeilliadol i’r datblygiad hwnnw, neu

(c)

bod y tir yn dir amnewid sydd i’w roi yn gyfnewid am dir y gorchymyn o dan adran 70 neu 71.

(3)

Yr amod yw bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i’r tir gael ei gaffael yn orfodol.