RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Darpariaeth mewn gorchmynion: cyffredinol
63Yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith
(1)
Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith osod gofynion mewn perthynas â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer.
(2)
Caiff y gofynion gynnwys, ymhlith pethau eraill—
(a)
gofynion sy’n cyfateb i amodau y gellid bod wedi eu gosod wrth roi unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu awdurdodiad, neu roi unrhyw hysbysiad a fyddai oni bai am adran 20(1) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 84(1) wedi bod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad;
(b)
gofynion i gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall, i’r graddau nad yw hynny o fewn paragraff (a).
(3)
Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith wneud darpariaeth yn ymwneud â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer, neu yn ymwneud â materion sy’n atodol iddo.
(4)
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (3) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(5)
Caiff rheoliadau—
(a)
ychwanegu mater at Ran 1 o Atodlen 1;
(b)
dileu neu amrywio mater a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(6)
Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith—
(a)
cymhwyso, addasu neu eithrio deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw fater y caniateir gwneud darpariaeth ar ei gyfer yn y gorchymyn;
(b)
diwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau sy’n gymwys yn lleol y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod hynny’n briodol o ganlyniad i ddarpariaeth yn y gorchymyn neu mewn cysylltiad â’r gorchymyn;
(c)
cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth arall yn y gorchymyn;
(d)
cynnwys darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(7)
Ac eithrio darpariaeth a wneir o dan is-adran (3) sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir ym mharagraff 29 o Atodlen 1, ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys—
(a)
darpariaeth sy’n creu troseddau,
(b)
darpariaeth sy’n rhoi pŵer i greu troseddau, nac
(c)
darpariaeth sy’n newid pŵer presennol i greu troseddau.
(8)
I’r graddau y caniateir cynnwys darpariaeth ar gyfer mater neu sy’n ymwneud â mater mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, ni chaniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol gynnwys darpariaeth o’r un math—
(a)
gorchymyn o dan adran 14 neu 16 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) (gorchmynion mewn perthynas â harbyrau, dociau a cheiau);
(b)
gorchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion o ran rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).