RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y penderfyniad
61Datblygiad y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar ei gyfer
(1)
Caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad sy’n—
(a)
datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer;
(b)
datblygiad cysylltiedig.
(2)
Ystyr “datblygiad cysylltiedig” yw datblygiad—
(a)
sy’n gysylltiedig â’r datblygiad o fewn is-adran (1)(a) (neu unrhyw ran ohono), a
(b)
sydd i’w gynnal yn gyfan gwbl yn un o’r ardaloedd neu’r ddwy ardal a ganlyn—
(i)
Cymru;
(ii)
ardal forol Cymru.
(3)
I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn cael ei roi ar gyfer datblygiad cysylltiedig, mae adran 20 yn gymwys i’r datblygiad fel y mae’n gymwys i ddatblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer.