RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Yr amserlen

59Yr amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith

(1)

Rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith cyn diwedd—

(a)

52 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y cais ei dderbyn yn gais dilys, neu

(b)

unrhyw gyfnod arall y mae’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, estyn y cyfnodau a grybwyllir yn is-adran (1).

(3)

Caniateir rhoi cyfarwyddyd—

(a)

mwy nag unwaith mewn perthynas â’r un cais;

(b)

ar ôl diwedd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adran (1).‍

(4)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

hysbysu’r ceisydd ac unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau am y cyfarwyddyd,

(b)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd, ac

(c)

gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i rhoddwyd.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru adroddiadau blynyddol ynghylch—

(a)

eu cydymffurfedd â’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1), a

(b)

sut y maent yn arfer y swyddogaethau a roddir gan is-adran (2).

(6)

Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (1)(a).