Rhagolygol
Wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) roi sylw i—
(a)unrhyw adroddiad ar yr effaith leol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir o dan adran 36;
(b)unrhyw adroddiad ar yr effaith forol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir o dan adran 37;
(c)unrhyw archwiliad a gynhelir o dan Ran 4;
(d)unrhyw faterion a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â datblygiad o’r math y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(e)dymunoldeb lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo;
(f)unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)