RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Polisïau statudol a materion perthnasol eraill‍

57Dyletswydd i roi sylw i faterion penodol wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau

Wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) roi sylw i—

(a)

unrhyw adroddiad ar yr effaith leol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir o dan adran 36;

(b)

unrhyw adroddiad ar yr effaith forol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir o dan adran 37;

(c)

unrhyw archwiliad a gynhelir o dan Ran 4;

(d)

unrhyw faterion a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â datblygiad o’r math y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(e)

dymunoldeb lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo;

(f)

unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.‍