RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Penderfynwr

55Swyddogaeth penderfynu ar geisiadau

(1)

Yr awdurdod archwilio sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad o fath a bennir mewn rheoliadau.

(2)

Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar unrhyw gais arall am gydsyniad seilwaith.

(3)

Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan is-adran (4).

(4)

Mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—

(a)

mai awdurdod archwilio sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais yn lle Gweinidogion Cymru;

(b)

mai Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais yn lle awdurdod archwilio.