RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

53Pŵer i gyfarwyddo archwiliad pellach

(1)

Ar ôl cael adroddiad o dan adran 52, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod archwilio i ailagor ei archwiliad o’r cais yn unol ag unrhyw ofynion a bennir yn y cyfarwyddyd.

(2)

Mae’r ddyletswydd sydd ar awdurdod archwilio yn adran 52 yn gymwys i unrhyw archwiliad pellach sy’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon.

(3)

Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)

cynnwys datganiad sy’n egluro pam y’i rhoddir;

(b)

cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi.