RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

52Adroddiadau gan awdurdod archwilio

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)

awdurdod archwilio a benodir o dan adran 40(1) os Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais;

(b)

awdurdod archwilio a benodir o dan adran 40(2) os Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais o dan reoliadau a wneir o dan adran 91.

(2)

Rhaid i’r awdurdod archwilio gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y cais y mae’n ei archwilio sy’n nodi—

(a)

canfyddiadau a chasgliadau’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r cais, a

(b)

argymhellion yr awdurdod archwilio ynghylch y penderfyniad sydd i’w wneud ar y cais.