RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU
Archwilio ceisiadau
51Cymorth cyfreithiol
(1)
Caiff yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi bargyfreithiwr neu gyfreithiwr i ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol i’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’i archwiliad o gais o dan y Rhan hon.
(2)
Mae’r cymorth y caiff person a benodir o dan is-adran (1) ei roi yn cynnwys mynd ati ar ran yr awdurdod archwilio i gwestiynu ar lafar berson sy’n cyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.