RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

50Aseswyr

(1)

Caiff yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi person i weithredu fel asesydd er mwyn cynorthwyo’r awdurdod archwilio i archwilio cais o dan y Rhan hon.

(2)

Ni chaniateir penodi person yn asesydd onid yw’n ymddangos i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) fod y person yn meddu ar arbenigedd sy’n gwneud y person yn addas i gynorthwyo’r awdurdod archwilio.