RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL

Ynni

5Hollti hydrolig am olew a nwy a nwyeiddio glo

Mae’r datblygiadau a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)

fforio, arfarnu neu gynhyrchu methan haen lo, olew siâl neu nwy siâl gan ddefnyddio hollti hydrolig yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac eithrio gwneud tyllau turio fforiol at ddiben samplu craidd mewn modd nad yw’n golygu cynnal hollti hydrolig;

(b)

nwyeiddio glo yn y strata yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac eithrio gwneud tyllau turio fforiol at ddiben samplu craidd.