RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU
Archwilio ceisiadau
49Talu cynrychiolydd penodedig pan fo mynediad at dystiolaeth wedi ei gyfyngu
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw person yn cael ei benodi o dan adran 48 yn gynrychiolydd penodedig at ddibenion ymchwiliad lleol, pa un a yw’r ymchwiliad yn digwydd ai peidio.
(2)
Caiff awdurdod gweinidogol gyfarwyddo person (“y person cyfrifol”) i dalu ffioedd a threuliau’r cynrychiolydd a benodir.
(3)
Rhaid i’r person cyfrifol fod yn berson y mae’r awdurdod gweinidogol yn ystyried ei fod, neu y byddai wedi bod, â diddordeb yn yr ymchwiliad mewn perthynas ag—
(a)
diogelwch cenedlaethol, neu
(b)
y mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall.
(4)
Os nad yw’r cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol yn gallu cytuno ar swm y ffioedd a’r treuliau, rhaid i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gweinidogol a roddodd y cyfarwyddyd.
(5)
Rhaid i’r awdurdod gweinidogol beri i’r swm y cytunir arno rhwng y cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol, neu a benderfynir gan yr awdurdod gweinidogol, gael ei ardystio.
(6)
Gellir adennill y swm ardystiedig oddi wrth y person cyfrifol fel dyled.