RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

46Pŵer i fynd ar dir y Goron mewn cysylltiad ag archwiliad

(1)

Mae adran 45 yn gymwys i dir y Goron yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3).

(2)

Ni chaiff person fynd ar dir y Goron oni fo’r person (“P”) wedi cael caniatâd—

(a)

person yr ymddengys i P fod ganddo hawl i’w roi, neu

(b)

awdurdod priodol y Goron.

(3)

Nid yw is-adrannau (2)(b), (3) a (4) o adran 45 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir yn rhinwedd yr adran hon.