RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

43Gwrandawiadau llawr agored

(1)

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod archwilio beri bod gwrandawiad llawr agored yn cael ei gynnal o dan yr amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.

(2)

Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ofyniad i beri bod gwrandawiad llawr agored yn cael ei gynnal yn ddarostyngedig i amodau (gan gynnwys arfer disgresiwn gan yr awdurdod archwilio).

(3)

Yn yr adran hon, “gwrandawiad llawr agored” yw gwrandawiad lle y mae gan bob parti a chanddo fuddiant hawlogaeth (yn ddarostyngedig i bwerau’r awdurdod archwilio i reoli’r dull o gynnal y gwrandawiad) i wneud sylwadau llafar ynghylch y cais.