RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

42Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedig

(1)

Rhaid i’r awdurdod archwilio ddyfarnu’r weithdrefn ar gyfer archwilio pob cais y’i penodir mewn cysylltiad ag ef.

(2)

Rhaid i ddyfarniad ddarparu y bydd y cais yn cael ei archwilio drwy un neu ragor o’r dulliau a ganlyn—

(a)

mewn ymchwiliad lleol;

(b)

mewn gwrandawiad;

(c)

ar sail y cais ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig (os oes rhai) ynghylch y cais.

(3)

A rhaid i ddyfarniad ddarparu y bydd archwiliad o’r cais yn cynnwys gwrandawiad, oni bai bod—

(a)

y dyfarniad yn darparu y bydd ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal, neu

(b)

yr awdurdod archwilio yn ystyried na fyddai gwrandawiad yn cynorthwyo’r archwiliad.

(4)

Rhaid i’r awdurdod archwilio wneud dyfarniad cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau.

(5)

Caniateir i ddyfarniad gael ei amrywio gan ddyfarniad pellach ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar y cais sy’n cael ei archwilio o dan adran 60.

(6)

Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu‍ unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau am ddyfarniad o dan yr adran hon.

(7)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w cymhwyso gan yr awdurdod archwilio wrth wneud dyfarniadau o dan yr adran hon.

(8)

Mae swyddogaethau awdurdod archwilio o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 43 neu 44.