RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Y weithdrefn gwneud cais

39Ymgynghoriad ar ôl cais mewn perthynas â chaffael gorfodol

(1)

Caiff rheoliadau‍ wneud darpariaeth i geisydd am gydsyniad seilwaith ymgynghori ar gais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, ac mewn cysylltiad â hynny.‍

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran‍ (1) gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth‍ —

(a)

sy’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â phersonau penodedig;

(b)

ynghylch yr amgylchiadau pan fo ymgynghoriad yn ofynnol;

(c)

ynghylch sut y cynhelir yr ymgynghoriad (gan gynnwys ffurf a chynnwys dogfennau, gwybodaeth a deunyddiau eraill sydd i’w darparu i berson at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad ag ef);

(d)

ynghylch yr amserlen mewn cysylltiad â chynnal yr ymgynghoriad.