Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

39Ymgynghoriad ar ôl cais mewn perthynas â chaffael gorfodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau‍ wneud darpariaeth i geisydd am gydsyniad seilwaith ymgynghori ar gais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, ac mewn cysylltiad â hynny.‍

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran‍ (1) gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth‍ —

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â phersonau penodedig;

(b)ynghylch yr amgylchiadau pan fo ymgynghoriad yn ofynnol;

(c)ynghylch sut y cynhelir yr ymgynghoriad (gan gynnwys ffurf a chynnwys dogfennau, gwybodaeth a deunyddiau eraill sydd i’w darparu i berson at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad ag ef);

(d)ynghylch yr amserlen mewn cysylltiad â chynnal yr ymgynghoriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)

I2A. 39 mewn grym ar 15.12.2025 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2025/698, ergl. 3(a)