RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn gwneud cais
38Hysbysiad am bersonau a chanddynt fuddiant mewn tir y mae archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)
Gweinidogion Cymru wedi derbyn cais am gydsyniad seilwaith fel cais dilys, a
(b)
y cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir (“archiad caffael gorfodol”).
(2)
Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad i Weinidogion Cymru sy’n pennu enwau pob person yr effeithir arno, ac unrhyw wybodaeth arall a bennir mewn rheoliadau amdano.
(3)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) gael ei roi ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheoliadau.
(4)
Mae person yn “person yr effeithir arno” at ddibenion yr adran hon os yw’r ceisydd, ar ôl ymholi’n ddyfal, yn gwybod bod gan y person fuddiant yn y tir y mae’r archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef neu unrhyw ran o’r tir hwnnw.