RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn gwneud cais
37Adroddiadau effaith ar y môr
(1)
Os yw’r gorchymyn drafft a gyflwynir gyda chais am gydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trwydded forol dybiedig rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(b) drwy gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â’r cais i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith a rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno’r adroddiad erbyn y dyddiad cau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)
Caiff Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith ac eithrio mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(b) neu gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2) cyn y dyddiad cau a bennir mewn cyhoeddusrwydd o dan adran 34(3).
(4)
Yn y Ddeddf hon, ystyr adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais yw adroddiad ysgrifenedig—
(a)
sy’n rhoi manylion am effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd morol, a
(b)
sy’n cydymffurfio â gofynion a bennir mewn rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys adroddiad effaith ar y môr.
(5)
Yn yr adran hon, mae “yr amgylchedd morol” yn cynnwys—
(a)
harddwch naturiol neu amwynder ardaloedd morol neu arfordirol (gan gynnwys eu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol);
(b)
fflora a ffawna sy’n ddibynnol ar amgylchedd morol neu arfordirol, neu sy’n gysylltiedig ag amgylchedd o’r fath.