RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn gwneud cais
35Rheoliadau ynghylch hysbysiadau a chyhoeddusrwydd
(1)
Caiff rheoliadau—
(a)
mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 33 neu 34, neu sylwadau ar gais a roddir o dan adran 34, wneud darpariaeth ynghylch—
(i)
ffurf a chynnwys yr hysbysiad neu’r sylwadau;
(ii)
sut y rhoddir yr hysbysiad neu’r sylwadau;
(iii)
yr amserlenni ar gyfer rhoi’r hysbysiad a’r sylwadau;
(b)
gosod gofynion ar berson neu berson o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i ymateb i hysbysiad o dan adran 34(2);
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch sut y gall person ymateb i gyhoeddusrwydd o dan adran 34 a’r amserlenni ar gyfer ymateb;
(d)
gwneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi sylwadau a geir mewn ymateb i hysbysiad a chyhoeddusrwydd o dan adran 34.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.