RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn gwneud cais
34Hysbysiad am geisiadau a dderbynnir a chyhoeddusrwydd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn cais am gydsyniad seilwaith fel cais dilys.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad am y cais—
(a)
yn achos cais am ddatblygiad yng Nghymru—
(i)
i bob awdurdod cynllunio ar gyfer ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;
(ii)
os yw’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli mewn ardal y ceir cyngor cymuned ar ei chyfer, i’r cyngor cymuned;
(iii)
i bob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;
(iv)
i bob Aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;
(b)
yn achos cais am ddatblygiad yn ardal forol Cymru—
(i)
i Gyfoeth Naturiol Cymru;
(ii)
i bob awdurdod cynllunio a phob cyngor cymuned y maent yn ystyried ei fod yn briodol;
(iii)
i bob Aelod o’r Senedd a phob Aelod o Dŷ’r Cyffredin y maent yn ystyried ei fod yn briodol;
(c)
i unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i’r cais yn y modd a bennir mewn rheoliadau.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
pennu mewn unrhyw hysbysiad neu gyhoeddusrwydd o dan yr adran hon, a
(b)
mewn unrhyw gyfarwyddyd o dan is-adran (10), ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd bennu mewn unrhyw hysbysiad neu gyhoeddusrwydd sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd,
ddyddiad cau erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael sylwadau ar y cais.
(5)
Rhaid i’r dyddiad cau fod ar ôl diwedd y cyfnod byrraf ar gyfer sylwadau a bennir mewn rheoliadau.
(6)
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw sylwadau y maent yn eu cael erbyn y dyddiad cau a bennir yn y cyhoeddusrwydd ar gael i’r awdurdod archwilio.
(7)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
estyn y dyddiad cau cyn iddo ddod i ben;
(b)
estyn y dyddiad cau fwy nag unwaith.
(8)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn estyn y dyddiad cau mewn cysylltiad â’r cais, rhaid iddynt—
(a)
rhoi hysbysiad pellach o dan is-adran (2) i’r un personau,
(b)
ymgymryd â chyhoeddusrwydd pellach o dan is-adran (3), ac
(c)
os rhoddwyd cyfarwyddyd o dan is-adran (10), roi cyfarwyddyd pellach o dan is-adran (10) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd—
(i)
rhoi hysbysiad pellach i’r un personau, a
(ii)
ymgymryd â chyhoeddusrwydd pellach yn yr un ffordd.
(9)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
pennu mewn unrhyw hysbysiad pellach neu gyhoeddusrwydd pellach, a
(b)
mewn unrhyw gyfarwyddyd pellach, ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd bennu, mewn unrhyw hysbysiad pellach neu gyhoeddusrwydd pellach, y rhesymau dros estyn y dyddiad cau.
(10)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r ceisydd i—
(a)
hysbysu person neu berson o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd am y cais;
(b)
rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais yn y modd a bennir yn y cyfarwyddyd.
(11)
Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i geisydd ei wneud gan gyfarwyddyd o dan is-adran (10).