RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn gwneud cais
32Gwneud cais am gydsyniad seilwaith
(1)
Ni chaniateir rhoi cydsyniad seilwaith oni wneir cais amdano.
(2)
Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud i Weinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith—
(a)
pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef;
(b)
cynnwys gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft;
(c)
cynnwys adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais.
(4)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am gydsyniad seilwaith, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys cais (gan gynnwys y gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft sy’n ofynnol);
(b)
sut y gwneir cais;
(c)
gwybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cais;
(d)
prosesu cais;
(e)
amrywio cais neu ei dynnu yn ôl;
(f)
hysbysiadau yn ymwneud â cheisiadau;
(g)
y cyfnod y mae rhaid gwneud cais o’i fewn ac estyn y cyfnod hwnnw.
(5)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.
(6)
Yn is-adran (3)(c), ystyr “adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais” yw adroddiad sy’n rhoi manylion ynghylch—
(a)
sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 30;
(b)
yr ymatebion a gafwyd oddi wrth bersonau yn rhinwedd adran 30 a’r ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion.