RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn cyn gwneud cais
31Newid yn y person sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith
(1)
Nid yw’r dyletswyddau yn adran 29(1) a 30(1) yn gymwys i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith (“person A”)—
(a)
os oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 29(1) gan berson arall (“person B”) mewn cysylltiad â’r un datblygiad arfaethedig neu’r un datblygiad arfaethedig i raddau helaeth, a
(b)
os yw amod 1 neu amod 2 yn gymwys.
(2)
Amod 1 yw bod yr hysbysiad a roddir gan berson B yn pennu y bydd y cais am gydsyniad seilwaith mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig yn cael ei wneud gan berson A.
(3)
Amod 2 yw bod trefniadau i berson A i wneud y cais am gydsyniad seilwaith yn cael eu gwneud yn ystod neu o ganlyniad i ymgynghoriad ar y cais arfaethedig o dan adran 30 a gynhelir gan berson B.