RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn cyn gwneud cais
30Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais
(1)
Rhaid i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith (“y ceisydd”) gynnal ymgynghoriad ar y cais arfaethedig.
(2)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad, sy’n ofynnol o dan yr adran hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth—
(a)
ynghylch y personau neu’r personau o ddisgrifiad y mae’n ofynnol ymgynghori â hwy;
(b)
ynghylch sut y mae’r ymgynghoriad i’w gynnal (gan gynnwys ffurf a chynnwys dogfennau, gwybodaeth a deunyddiau eraill sydd i’w darparu i berson at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad);
(c)
ynghylch y materion i yngynghori arnynt, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) fanteision y datblygiad arfaethedig i bobl sy’n byw yn ardal y datblygiad arfaethedig;
(d)
ynghylch ymateb i’r ymgynghoriad (gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu ddisgrifiad o berson yr ymgynghorir ag ef ymateb i’r ymgynghoriad neu ymateb i’r ymgynghoriad mewn modd penodol, neu ymateb o fewn adeg benodol);
(e)
ynghylch yr amserlen mewn cysylltiad â chynnal yr ymgynghoriad;
(f)
yn ei gwneud yn ofynnol i berson yr ymgynghorir ag ef yn rhinwedd paragraff (a) lunio a chyhoeddi adroddiad ynghylch cydymffurfedd y person ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (d) neu (e) (gan gynnwys ffurf a chynnwys yr adroddiad ac ar ba adeg y mae i’w wneud).
(3)
Rhaid i’r ceisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig yn y modd a bennir mewn rheoliadau.
(4)
Os yw adran 29 yn gymwys i gais arfaethedig, nid yw cam a gymerir mewn cysylltiad â’r cais arfaethedig cyn y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan adran 29(4) i’w drin fel ymgynghoriad neu gyhoeddusrwydd o dan yr adran hon.