RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Y weithdrefn cyn gwneud cais

29Hysbysu am gais arfaethedig

(1)

Rhaid i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith hysbysu’r canlynol am y cais arfaethedig—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

os yw’r datblygiad arfaethedig yng Nghymru, pob awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(c)

os yw’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli mewn ardal y ceir cyngor cymuned ar ei chyfer, y cyngor cymuned;

(d)

pob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(e)

pob Aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(f)

os yw’r datblygiad arfaethedig yn ardal forol Cymru,‍ Cyfoeth Naturiol Cymru a phob awdurdod cynllunio a phob cyngor cymuned y mae’r person yn ystyried ei fod yn briodol;

(g)

pob Aelod o’r Senedd a phob Aelod o Dŷ’r Cyffredin y mae’r person yn ystyried ei fod yn briodol;

(h)

unrhyw berson arall neu berson arall o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad gydymffurfio â gofynion a bennir mewn rheoliadau.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) (ymhlith gofynion eraill) gynnwys gofynion yn ymwneud ag—

(a)

ffurf a chynnwys hysbysiad;

(b)

gwybodaeth, dogfennau neu ddeunydd arall sydd i fynd gyda hysbysiad;

(c)

sut a phryd y mae hysbysiad i’w roi.

(4)

Os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad sy’n cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person fod yr hysbysiad wedi ei dderbyn.

(5)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4), gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)

ffurf a chynnwys yr hysbysiad;

(b)

sut y mae i’w roi;

(c)

o fewn pa gyfnod y mae i’w roi (gan gynnwys darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw mewn achos penodol).

(6)

Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r cais arfaethedig yn ymwneud â chydsyniad seilwaith sy’n ofynnol yn rhinwedd cyfarwyddyd a wneir o dan adran 22(1) yn dilyn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.