RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Cymorth i geisyddion
27Darparu gwasanaethau cyn gwneud cais
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer darparu gwasanaethau cyn gwneud cais gan awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru, ac mewn cysylltiad â hynny, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)
yr amgylchiadau pan fo’n ofynnol darparu gwasanaethau cyn gwneud cais (gan gynnwys darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys archiadau am wasanaethau cyn gwneud cais, a’r wybodaeth sydd i fynd gydag archiad);
(b)
natur y gwasanaethau y bydd yn ofynnol eu darparu, a phryd a sut y maent i’w darparu;
(c)
cyhoeddi datganiad sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch yr ystod o wasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir gan awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru;
(d)
camau eraill y mae’n ofynnol i unrhyw berson eu cymryd mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau, neu at ddibenion darparu gwasanaethau, o dan y rheoliadau.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wasanaethau cyn gwneud cais yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir i berson at ddiben cynorthwyo’r person i wneud cais am orchymyn cydsyniad seilwaith.