RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Pwerau i newid y gofyniad neu ei effaith
24Cyfarwyddydau sy’n pennu nad yw datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu nad yw datblygiad a fyddai’n brosiect seilwaith arwyddocaol fel arall yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
(2)
Nid yw datblygiad a bennir o dan yr adran hon i’w drin fel prosiect seilwaith arwyddocaol at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) os bydd y datblygiad (ar ôl ei gwblhau) yn rhannol yng Nghymru neu’n rhannol yn ardal forol Cymru.
(4)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a
(b)
gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed.