RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Pwerau i newid y gofyniad neu ei effaith

21Pŵer i ychwanegu neu ddileu mathau o gydsyniad

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)

diwygio adran 20(1) neu (2)—

(i)

er mwyn ychwanegu neu ddileu math o gydsyniad, neu

(ii)

er mwyn amrywio’r achosion y mae math o gydsyniad o fewn yr is-adrannau hynny mewn perthynas â hwy;

(b)

gwneud darpariaeth bellach ynghylch—

(i)

y mathau o gydsyniad sydd o fewn, ac nad ydynt o fewn, adran 20(1) neu (2), neu

(ii)

yr achosion y mae math o gydsyniad, neu nad yw math o gydsyniad, o fewn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny mewn perthynas â hwy.

(2)

Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu deddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).

(3)

Yn yr adran hon, ystyr “cydsyniad” yw—

(a)

cydsyniad, awdurdodiad neu ganiatâd y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,

(b)

cydsyniad, awdurdodiad neu ganiatâd—

(i)

a gaiff awdurdodi datblygiad, a

(ii)

a roddir o dan ddeddfiad, neu

(c)

hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad.