RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Pŵer i ddiwygio
17Pŵer i ychwanegu, amrywio neu ddileu prosiectau
(1)
Caiff rheoliadau—
(a)
diwygio’r Rhan hon er mwyn ychwanegu math newydd o brosiect seilwaith arwyddocaol neu amrywio neu ddileu prosiect seilwaith arwyddocaol presennol;
(b)
gwneud darpariaeth bellach, neu ddiwygio neu ddiddymu darpariaeth bresennol, ynghylch y math o brosiect sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol, ac nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ddiwygio’r Ddeddf hon.
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ond ychwanegu math newydd o brosiect neu amrywio math presennol o brosiect—
(a)
os yw’r prosiect, neu unrhyw amrywiad i brosiect presennol, ar gyfer cynnal gwaith yn un neu ragor o’r meysydd a bennir yn is-adran (4), a
(b)
os yw’r gwaith i’w gynnal yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru neu yn y naill a’r llall.
(4)
Y meysydd yw—
(a)
ynni;
(b)
atal llifogydd;
(c)
mwynau;
(d)
cludiant;
(e)
dŵr;
(f)
dŵr gwastraff;
(g)
gwastraff.