RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Cyffredinol
147Dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
Rhan 1;
(b)
y darpariaethau yn Rhannau 2 i 8 sydd—
(i)
yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau, neu
(ii)
yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn y caniateir (a’r hyn na chaniateir) ei wneud wrth arfer pŵer i wneud rheoliadau;
(c)
y Rhan hon, ac eithrio adran 145.
(2)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)
gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.